Prentisiaeth Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Cymru Wales Addysg - Caerdydd - CYMRAEG / Education Cardiff
at BBC
Job Details
Job Description
Prentisiaeth Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Cymru Wales Addysg - Caerdydd - CYMRAEG / Education Cardiff
AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.
PAM YMUNO Â’R CYNLLUN?
Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni'n eu cynnig, gallwch gofrestru i ymuno ag un o'n gweminarau yma. Sylwch fod y weminar ar gyfer y cynllun hwn yn cael ei chynnal nos Fercher 10 Rhagfyr am 6pm. Os nad ydych chi'n gallu bod yn bresennol, neu os ydych chi wedi gweld hyn ar ôl y dyddiad hwnnw, cadwch lygad ar ein rhestr o weminarau ar Youtube ymalle bydd y fideo'n cael ei uwchlwytho.
PAM YMUNO Â’R TÎM?
Adran gynhyrchu a chomisiynu yw BBC Cymru Addysg, sy'n gweithio ar un o wasanaethau mwyaf y BBC i bobl ifanc, sef BBC Bitesize. Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar sy'n gwneud cynnwys ffres, dwyieithog i bobl ifanc 3-16 oed sy'n cael ei weld gan filiynau. Mae ein cynnwys yn ennyn chwilfrydedd ac yn annog dysgwyr ledled Cymru i feddwl! O'r syniad cyntaf un i'r lansiad mawr, byddwch yn ganolog i bopeth, yn gweithio ochr yn ochr â thimau golygyddol a thechnegol gwych i helpu i ddod â chynnwys newydd sbon o ansawdd uchel yn fyw. Mae cenhadaeth BBC Addysg yn syml - gweddnewid bywydau drwy ddysgu. Yn ystod cyfnodau clo'r ysgolion, roedd yr adran wedi darparu’r gwasanaeth addysgol mwyaf yn hanes y BBC drwy BBC Bitesize a daeth cynulleidfaoedd newydd enfawr i ddarganfod ein cynnwys. Rydym ni wedi cynnal y momentwm hwnnw, gan greu mwy fyth o gynnwys cyffrous i ddysgwyr ledled Cymru.
Ein nod yw:
- Rhoi profiad dysgu personol i bob plentyn yn y DU drwy BBC Bitesize, sy'n denu dros 2 filiwn o ddefnyddwyr yr wythnos
- Cefnogi ac ysbrydoli dysgu yn yr ystafell ddosbarth drwy greu cynnwys o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm
- Mynd i'r afael â bylchau addysgol a chymdeithasol ledled y DU drwy ymgysylltu ag ymgyrchoedd addysgol
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD
Fel prentis Cynhyrchu, dyma gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Gallech chi:
- Dysgu sut rydym ni'n ffilmio ac yn darparu cynnwys ffilm i bobl ifanc
- Dysgu am y broses o gomisiynu a chynhyrchu animeiddiadau
- Cael cyfleoedd i gynhyrchu cynnwys cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo
- Ymweld ag ysgolion i ddeall anghenion ein dysgwyr
- Datblygu dealltwriaeth o'r haenau o brosesau cynhyrchu sydd eu hangen i wneud cynnwys addysgol diddorol a digidol ar gyfer un o frandiau mwyaf y BBC.
Byddwch chi'n dysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (wythnos neu ddwy ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, sef Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Digidol a Chreadigol. Bydd y blociau dysgu’n cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb.
I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith prentisiaeth y byddwch yn ei astudio, ewch i’r ddolen hon.
EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD
Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydym ni’n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais. Rydym ni’n chwilio am y canlynol:
- Brwdfrydedd, dychymyg a dawn greadigol
- Angerdd dros gynnwys dysgu digidol
- Diddordeb gwirioneddol mewn animeiddio
- Awdur creadigol ysbrydoledig
- Dealltwriaeth neu barodrwydd i ddysgu beth sy'n cadw cynulleidfaoedd i wylio ein cynnwys
Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau tebyg yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi ar wefan gyrfaoedd y BBC neu’n edrych ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill.
MEINI PRAWF CYMHWYSEDD
Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
- Bod yn 18 oed neu’n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
- Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau’r brentisiaeth
- Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio’n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
- Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd
- Nid oes angen unrhyw ddysgu blaenorol i wneud cais.
Ar gyfer ymgeiswyr o dan 19 oed ar 8 Medi 2026: I gwblhau'r brentisiaeth, rhaid i chi fod wedi cael Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn: Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif o fewn 12 mis cyntaf y brentisiaeth.
BAROD I YMGEISIO?
Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch ‘Ymgeisio Nawr’!
Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn - does dim angen CV na llythyr cais.
Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n eich tywys drwy’r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl.
Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill - ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch wneud cais.
Mae'r BBC yn cydnabod y gallai fod angen i rai pobl sy'n gwneud cais am Gynllun Prentisiaeth y BBC symud i leoliad newydd ar gyfer y rôl, ac efallai na fydd hyn yn bosibl oherwydd eich cyfyngiadau ariannol personol. Cynigir cymorth adleoli i nifer cyfyngedig o brentisiaid bob blwyddyn ac fe fyddai hyn yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon, yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer cymorth adleoli. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ag ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio. Mae manylion y cymorth ehangach sydd ar gael yn y BBC ar gael yma.
Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol - bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun.
Yn ystod eich prentisiaeth, byddwch chi’n cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio i’ch helpu i gymryd y camau nesaf - boed hynny gyda’r BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant.
Gwybodaeth ychwanegol
This job description is a written statement of the essential characteristics of the job, with its principal accountabilities, incorporating a note of the skills, knowledge and experience required for a satisfactory level of performance. This is not intended to be a complete, detailed account of all aspects of the duties involved.
Our apprenticeship roles are also subject to you having the require qualifications that we have deemed to be necessary for your role and the requirement of the training provider for your scheme. The offer would be subject to you undergoing and meeting the requirements of a skill scan process with the BBC nominated training provider to determine your eligibility.
Please note: If you were to be offered this role, the BBC will conduct Employment screening checks which include Reference checks; Eligibility to work checks; and if applicable to the role, Safeguarding and Adverse media/Social media checks. Any offer made is conditional on these checks being satisfactory.
Information at a Glance
This is your BBC. At the BBC you can create and innovate in an inclusive environment while contributing to some of the world’s best loved content, and the BBC’s mission to inform, educate and entertain.
Life at BBC. Here you will benefit from:
- Excellent career and professional development.
- Fair pay and flexible benefits including a competitive salary package, a 35-hour working week, 25 days annual leave (26 days for BBC Studios), a range of policies to support your work/life balance, a defined pension scheme and discounted dental, health care and gym.
- A values-based organisation where the way we do things is important as what we do.
As an Apprentice you will also receive:
- An industry recognised qualification.
- Industry-leading training through the BBC Academy and our learning providers (this may involve travel to locations across the UK).
- A dedicated Team Manager and Scheme Specialist to help with your development.
- Training and Mentoring by industry professionals.
- A bespoke BBC apprenticeship experience including apprenticeship development days and membership of the BBC Apprenticeship community.
- Employability and networking training and support to help you secure your next role.
- The opportunity to apply for financial support for relocation subject to eligibility.
You belong
We have a working environment where we value and respect every individual's unique contribution, so all our employees feel that they can belong, thrive and achieve their full potential.
We want to attract the broadest range of talented people to join us. The more diverse our workforce, the better able we are to respond to and reflect our audiences in all their diversity.
We welcome applications from individuals, regardless of age, gender, ethnicity, disability, sexual orientation, gender identity, socio-economic background, religion and/or belief.
Find out more about diversity, inclusion and belonging in our strategy below.
Disability confident
We take inclusivity seriously and want to ensure all candidates who are disabled or have long-term health conditions receive the support and adjustments they need. If you need to discuss adjustments or access requirements for the recruitment process, or to carry out this role, please contact us via the Early Careers Recruitment contact form and we’d be happy to discuss how we can support you through the process.
How to apply
To apply for this role and to find out more, please click on the apply button. Please note that applications may close before the application deadline, so apply early to avoid disappointment.
Job Details
About BBC
The BBC remains a leading media brand, used by around 9 in 10 adults in the UK and a total of 429 million people globally each year. With a remit to deliver value to all, our content is high-impact, broad and far-reaching, and continues to be loved by audiences around the world.
View Company Profile
About BBC
The BBC remains a leading media brand, used by around 9 in 10 adults in the UK and a total of 429 million people globally each year. With a remit to deliver value to all, our content is high-impact, broad and far-reaching, and continues to be loved by audiences around the world.
View Company ProfileCompany Rating
Rating based on 207 Reviews
This score is based on honest feedback written by students who’ve worked at BBC.
See All ReviewsCompany Rating
Rating based on 207 Reviews
This score is based on honest feedback written by students who’ve worked at BBC.
See All Reviews